Mae Cambrian Utilities yn gwmni newydd sy’n manwerthu gwasanaethau dŵr i sefydliadau yng Nghymru a Lloegr.

Nid yw elusennau, cwsmeriaid sector cyhoeddus na busnesau cymwys yn gorfod prynu gwasanaethau dŵr oddi wrth eu cwmni dŵr rhanbarthol bellach. Yn hytrach, mae ganddynt ryddid i ddewis eu manwerthwr dŵr.


Rydym yn Bodoli er Budd ein Cwsmeriaid

A ninnau’n rhan o grŵp Glas Cymru, rydym yn bodoli er budd ein cwsmeriaid ac nid er mwyn gwneud elw. Mae holl gwmnïau grŵp Glas Cymru’n ailfuddsoddi unrhyw elw yn y busnes er budd ein cwsmeriaid yn hytrach na’i dalu i gyfranddalwyr.

Gwasanaeth Eithriadol i Gwsmeriaid

Nod Cambrian Utilities yw cynnig gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid ledled Cymru a Lloegr, yn cynnwys cymorth bilio, gwasanaethau arbed dŵr a chymorth cynhwysfawr i fusnesau unigol i ganfod lle gallwch arbed amser ac arian.